CYMRU

Dod â gweithwyr proffesiynol ym meysydd prawf ac adsefydlu ynghyd ledled Cymru trwy aelodaeth, datblygiad proffesiynol, rhwydweithio a dylanwadu ar bolisi ac ymarfer.

 

Cymraeg | English

Cyflwyniad

Mae'r Sefydliad Prawf yn cydnabod cyfraniad hanfodol ei aelodau yng Nghymru, lle mae adsefydlu effeithiol yn dibynnu ar gydweithio mewn partneriaeth gref rhwng gwasanaethau datganoledig. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu ein haelodaeth yng Nghymru; ehangu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a rhwydweithio; a chynyddu argaeledd cyhoeddiadau ac adnoddau dwyieithog. Ymunwch â ni a helpwch i gryfhau prawf ac adsefydlu yng Nghymru.

Cod Moeseg

Mae Cod Moeseg y Sefydliad Prawf yn nodi'r gwerthoedd craidd ac egwyddorion moesegol sy'n arwain ymarfer prawf ac yn sail i ymddygiad proffesiynol ei aelodau.

Grŵp Datblygu Prawf Cymru

Mae Grŵp Datblygu Prawf Cymru (WPDG) yn dod ag academyddion, gweithwyr proffesiynol prawf ac arbenigwyr cyfiawnder troseddol ynghyd i gyfrannu at ddatblygiad polisi ac ymarfer prawf yng Nghymru. Wedi'i gynnal gan Ganolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru (WCCSJ), mae'r grŵp yn hyrwyddo dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn archwilio ffyrdd o gryfhau gwasanaethau prawf a chyfiawnder cymunedol yng Nghymru.

Mae gwaith y grŵp yn cynnwys ymchwil, datblygu polisi a chyhoeddiadau sy'n archwilio dyfodol gwasanaethau prawf yng Nghymru a ffyrdd o greu system fwy integredig ac effeithiol i gymunedau Cymru.

Rhagor o wybodaeth: https://wccsj.ac.uk

Diolch i ‘Helo Blod’, gwasanaeth cyfieithu a chynghori Cymraeg cyflym a chyfeillgar a ddarperir gan Fusnes Cymru i helpu sefydliadau i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu busnes, elusen neu grŵp cymunedol. Darllenwch ragor am eu gwaith: https://busnescymru.llyw.cymru/heloblod/